Skip to main content

Digital Journalist

The Role

Digital Journalist (Welsh Language Content)

ITV Cymru Wales

10 month contract, Full time

Office location: Cardiff

Hiring range: £30,236 - £34,326

TalkingCareers@itv.com

The role

Welsh? Keen Journalist? Social media literate?

This role's for you.

We have an amazing opportunity for a digitally focused journalist to join our Welsh language production team at ITV Cymru Wales. Working alongside two trainee journalists, in this role you'll be presenting and producing online content for our youth platform - Hansh Dim Sbin (@hanshdimsbin) and will be the face of its 2026 Senedd Election campaign for 16-24 year olds.

Who are we looking for?

Someone with original and ambitious ideas and a passion for producing current affairs content that's accessible and relatable to young people in Wales.

We want someone with an excellent understanding of Welsh current affairs and the drive and passion to find a variety of new voices and stories from all corners of Wales, particularly those that are sometimes under-represented. Ideally, you will have had previous experience of working as a journalist or content creator.

The ability to speak and write in Welsh to a high standard is essential.

What does the role involve?

Your day-to-day will involve reacting to stories that are happening in the news by creating fresh youth-focused content for social media platforms. You'll also have room to research and report your own original journalism content on topics ranging from celebrity culture to politics.

To be considered for the role, we've got a task for you...

Along with your application, we'd like you to present the following:

Please present a short-form video suitable for TikTok/InstagramReels (max 2 minutes) on a news story or current affairs topic of your choice. Think about the 16-24 year-old demographic and the type of story that would appeal to Hansh Dim Sbin's audience.

This should be produced in the Welsh language.

Youtube

Remember to label the clip clearly with your name.

Skills you'll need (minimum criteria):

  • Fluency in Welsh language (both spoken and written)
  • Experience in digital storytelling and/or journalism
  • Political and compliance knowledge with proven track record of impartiality
  • Great understanding of digital platforms and strategies

Other things we're looking for (key criteria):

  • A passion for news and current affairs
  • A passion to increase representation and improve accessibility of Welsh language news content for young audiences
  • A creative thinker
  • Team player

-

Diversity, Equity and Inclusion is at the heart of what we do at ITV Cymru Wales and we want to ensure we reflect our audience both on screen and in our workforce. ITV is for Everyone and we encourage applications from Deaf, Disabled and Neurodivergent people and People of Colour to apply for this role.

Newsrooms are busy and pressurised environments, involving live news production, which often requires colleagues to make quick decisions under pressure. We also need people who are able to use their initiative and, particularly for editorial roles, know what information might be required and how to research it.

We need to test these abilities at the interview stage to understand how candidates will react when operating in a pressurised environment. This is a fundamental requirement of the role. We will always consider any request for reasonable adjustments as part of the interview process, for example sharing key themes when that is requested in connection with a neurodivergent condition, whilst still ensuring that we are able to test a candidate's ability to operate in the specific environment of a newsroom.

At ITV, we appreciate the use of technology for research during the application process. We understand that AI tools, including ChatGPT, can be valuable resources. However, we value authenticity and expect applicants to showcase their own thoughts and experiences.

Applications that appear to be directly copied from AI-generated content may be subject to rejection. We believe in a fair and authentic assessment process, and your individuality is key to standing out in our selection.

Closing date: 13/10/25

Please note the notice period for this role is 2 months (this will include any new contracts/ secondments)

Newyddiadurwr Digidol (Cynnwys Cymraeg)

ITV Cymru Wales

Cytundeb 10 mis

Lleoliad : Caerdydd

Cyflog : 30246 - 34326 (yn ddibynol ar brofiad)

TalkingCareers@itv.com

Y Rôl

Cymraeg? Newyddiadurwr? Yn byw a bôd ar gyfryngau cymdeithasol?

Mae'r rôl hon i chi.

Mae gennym gyfle anhygoel i newyddiadurwr digidol i ymuno â'n tîm cynnwys Cymraeg yn ITV Cymru Wales. Gan weithio ochr yn ochr â dau newyddiadurwr dan hyfforddiant, yn y rôl hon byddwch yn cyflwyno ac yn cynhyrchu cynnwys ar gyfer ein platfform - Hansh Dim Sbin (@hanshdimsbin). Byddwch hefyd yn wyneb ymgyrch Etholiad Senedd 2026 ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed.

Pwy ry' ni'n chwilio amdano?

Rhywun â syniadau gwreiddiol ac uchelgeisiol gydag angerdd dros gynhyrchu cynnwys materion cyfoes hygyrch sy'n berthnasol i bobl ifanc Cymru.

Rydym eisiau rhywun sydd â dealltwriaeth ardderchog o faterion cyfoes Cymru sy'n frwd i ddod o hyd i amrywiaeth o leisiau a straeon newydd o bob cwr o'r wlad, yn enwedig straeon y rhai sydd weithiau'n cael eu tangynrychioli. Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad blaenorol o weithio fel newyddiadurwr neu grewr cynnwys.

Mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg i safon uchel yn hanfodol.

Beth mae'r rôl yn ei gynnwys?

Bydd eich diwrnod o ddydd i ddydd yn cynnwys ymateb i straeon y newyddion trwy greu cynnwys ffres i bobl ifanc ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Bydd gennych hefyd gyfle i ymchwilio ac adrodd ar straeon newyddiadurol gwreiddiol eich hun ar bynciau all amrywio o ddiwylliant poblogaidd i wleidyddiaeth.

I gael eich ystyried ar gyfer y rôl, mae gennym dasg i chi...

Ynghyd â'ch cais, hoffem i chi gyflwyno'r canlynol:

Cyflwynwch fideo ffurf fer sy'n addas ar gyfer TikTok/InstagramReels (uchafswm 2 funud) ar stori newyddion neu bwnc materion cyfoes o'ch dewis. Meddyliwch am y ddemograffeg 16-24 oed a'r math o stori fyddai'n apelio at gynulleidfa Hansh Dim Sbin. Dylai hyn gael ei gynhyrchu yn yr iaith Gymraeg.

Youtube

Cofiwch labelu'r clip yn glir gyda'ch enw.

Sgiliau allweddol:

  • Rhuglder yn yr iaith Gymraeg (llafar ac ysgrifenedig)
  • Profiad mewn adrodd straeon digidol a/neu newyddiaduraeth
  • Gwybodaeth wleidyddol a chydymffurfiaeth gydag hanes profedig o ddidueddrwydd
  • Dealltwriaeth wych o lwyfannau a strategaethau digidol

Gofynion eraill y rôl

  • Angerdd i weithio ym myd newyddion a materion cyfoes
  • Ymrwymiad i gynyddu cynrychiolaeth a gwella hygyrchedd cynnwys newyddion Cymraeg i gynulleidfaoedd ifanc
  • Meddyliwr creadigol
  • Chwaraewr tîm

Mae amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud, ac rydyn ni eisiau adlewyrchu ein cynulleidfa - ar y sgrin ac yn ein gweithle. Mae ITV ar gyfer pawb, ac rydyn ni'n annog pobl Fyddar, pobl anabl, pobl niwroamrywiol a Phobl o Liw i wneud cais am y swydd yma.

Mae'r ystafell newyddion yn lle prysur, gyda rhaglnni newyddion byw, sy'n aml yn gofyn i gydweithwyr wneud penderfyniadau sydyn dan bwysau. Mae angen pobl sydd yn gallu cymryd camau ar eu liwt eu hunain, ac yn enwedig ar gyfer swyddi golygyddol, pobl sy'n gwybod pa wybodaeth fydd ei hangen a sut i fynd ati i'w chwilio.

Mae'n rhaid i ni brofi'r sgiliau yma yn ystod y cyfweliad er mwyn gweld sut fydd ymgeiswyr yn ymateb pan maen nhw'n gweithio mewn sefyllfa dan bwysau. Mae hyn yn rhan hanfodol o'r swydd. Byddwn ni bob amser yn ystyried unrhyw gais am addasiadau rhesymol fel rhan o'r broses gyfweld - er enghraifft, rhannu prif themâu pan fydd hynny'n cael ei ofyn mewn perthynas â chyflwr niwroamrywiol - ond eto gan sicrhau ein bod ni'n gallu profi gallu ymgeisydd i weithio'n effeithiol yn yr ystafell newyddion.

Yn ITV, rydyn ni'n gwerthfawrogi'r defnydd o dechnoleg ar gyfer ymchwil wrth wneud cais. Rydyn ni'n deall bod AI, gan gynnwys ChatGPT, yn gallu bod yn adnoddau defnyddiol. Ond, mae gwirionedd a chywirdeb yn bwysig i ni, ac rydyn ni'n disgwyl i ymgeiswyr ddangos eu syniadau a'u profiadau eu hunain.

Gall ceisiadau sy'n ymddangos eu bod wedi'u copïo'n uniongyrchol o gynnwys a gynhyrchwyd gan AI gael eu gwrthod. Rydyn ni'n credu mewn proses asesu deg a gonest - ac mae eich unigoliaeth yn allweddol i sefyll allan yn ein dewis.

Dyddiad cau: 13/10/25

Nodwch mai 2 fis yw'r cyfnod rhybudd ar gyfer y rôl hon (bydd hyn yn cynnwys unrhyw gontractau/secondiadau newydd)

Digital Journalist

ITV
Cardiff, UK
Full-Time

Published on 01/10/2025

Share this job now